Band pen tywysoges
Patrwm band pen gleiniog am ddim i ffitio baban newydd-anedig.
I ffitio baban newydd-anedig (pen 14–16 modfedd). Gallwch addasu hyd y clymau os hoffech chi.
Bydd angen tua 30 m o edafedd cotwm trwch dwbl (DK), bachyn 3.5 mm, 41 o fân-gleiniau a nodwydd i dacluso'r pennau. Mae'r patrwm yn defnyddio termau'r DU drwyddo draw. Mae'r byrfoddau yn Saesneg, fel ar batrymau crosio cyhoeddedig.
Byrfoddau
- ch
- cadwyn
- dc
- crosio dwbl (single crochet yn UDA)
- htr
- hanner trebl (half double crochet yn UDA)
- rep
- ailadrodd
- RS
- ochr dde
- sp
- bwlch
- ss
- pwyth slip
- tr
- trebl (double crochet yn UDA)
Pwythau a dulliau arbennig
Rhoi gleiniau ar yr edafedd: trochwch ben yr edafedd mewn glud PVA (glud gwyn), ei droi i gyfeiriad naturiol y cainc a'i adael i sychu cyn rhoi'r gleiniau arno.
Picot: 2ch, ss yn yr 2il ch o'r bachyn. Mae'r cadwyni ar gyfer y picot yn ychwanegol at unrhyw ch sydd eisoes wedi'u gwneud.
Y band pen

Rhowch 36 o gleiniau ar yr edafedd.

Gyda'r gleiniau ar yr edafedd, gwnewch gadwyn tua 20 cm (8 modfedd) o hyd.

Rhes 1: gan ddechrau yn yr 2il ch o'r bachyn, ss ym mhob ch i'r diwedd. Mae'r clymyn wedi'i wneud.

Rhes 2: 3ch, (1tr, 1ch, 2tr) i gyd i ben y clymyn,

trowch.

Rhes 3: 1ch, (dewch â glain i fyny, 1ch) 3 gwaith,

(2tr, 1ch, 2tr) i gyd i'r bwlch ch-1,

trowch.

Ailadroddwch Res 3 nes bod 11 grŵp o 3 glain wedi'u gweithio.

Rhes olaf: 1ch, (dewch â glain i fyny, 1ch) 3 gwaith, 1ch, ss yn y bwlch ch-1,

gwnewch gadwyn tua 20 cm (8 modfedd) o hyd,

gan ddechrau yn yr 2il ch o'r bachyn, ss ym mhob ch i'r diwedd (mae'r ail glymyn wedi'i wneud), ss yn y bwlch ch-1.

Clymwch i ffwrdd, tacluswch y pennau, a gwnewch y blodyn os hoffech un.
Blodyn (dewisol)
Rhowch 5 glain ar yr edafedd.
Gyda'r gleiniau ar yr edafedd, gweithiwch 5dc i gylch hud.
Rownd 1 (RS): *ss i'r pwyth nesaf, 8ch, gan ddechrau yn yr 2il ch o'r bachyn: ss yn y ch nesaf, 1dc yn y ch nesaf, 1htr yn y ch nesaf, 1tr yn y ch nesaf, 1htr yn y ch nesaf, 1dc yn y ch nesaf, ss yn y ch olaf; ailadroddwch o * o amgylch. 5 petal.
Rownd 2 (RS): *ss ym mhob pwyth i flaen y petal, dewch â glain i fyny, 1ch, ss ym mhob pwyth i waelod y petal; ailadroddwch o * o amgylch, ss i waelod y petal cyntaf i orffen.
Clymwch i ffwrdd, gan adael cynffon 20 cm (8 modfedd), a gweu'r gynffon i ganol ochr anghywir y blodyn.
Dewch â phob petal i'r canol yn ofalus, dal ochr isaf y blaen (fel nad yw'r glain yn cuddio) a'i dynnu'n dynn i'w le. Ailadroddwch ar gyfer pob un o'r 5 petal a'u pwytho'n ddiogel yn eu lle gyda gweddill y gynffon.
Clymwch i ffwrdd a thacluso'r pennau.

© Thomasina Cummings Designs 2014